Croeso i wefan newydd Ysgol Tryfan. Rydym yn parhau i weithio ar y wefan, ond gellir gweld y tudalennau sydd ar y chwith i’r neges yma. Sgroliwch i lawr y dudalen yma am y newyddion diweddaraf.

1229696038newyddiondiweddaraf.jpg

 

Dydd Mawrth, 02/03/2010

Gair byr i atgoffa pawb na fydd ysgol i ddisgybion ar ddydd Llun, Mawrth 8fed, 2010 na dydd Llun, Mawrth 29ain, 2010 oherwydd hyfforddiant Staff.

Yn ychwanegol, nodir isod ddyddiadau pwysig ar gyfer yr hanner tymor yma:

Dydd Mawrth - 09/03/2010: 4 p.m. - Noson Rhieni Blwyddyn 9.

Dydd Mawrth - 09/03/2010: 6 p.m -  Cyfarfod cyntaf o Gyfeillion yr Ysgol (Cymdeithas Rhieni/Athrawon) – croeso i bawb ddod draw ar gyfer y cyfarfod yma.

Dydd Mawrth - 16/03/2010: 4 p.m. - Noson Rhieni Blwyddyn 8.

Dydd Iau - 01/04/2010: Yr ysgol yn cau am Wyliau’r Pasg.

Allan i'r disgyblion 03/10/2010

 


 

Newyddion Chwefror wedi ei gynnwys

 ar y chwith - gweler "Newyddion".

Ychwanegwyd 01/03/10


Newyddion Ionawr wedi ei gynnwys

 ar y chwith - gweler "Newyddion".

Ychwanegwyd 08/02/10

 

Rhestr Gweithgareddau Tymor 1 wedi

ei gynnwys yn "Newyddion".

Ychwanegwyd ar 11/01/10

 


Nadolig Llawen

a

Blwyddyn Newydd Dda i bawb.


 

Newyddion Rhagfyr wedi ei ychwanegu

ar y chwith o dan "Newyddion".

Ychwanegwyd ar 17/12/09


 

Crynodeb o adroddiad y Llywodraethwyr i'r Rhieni ar y chwith ("Adroddiad i Rieni"). 

Ychwanegwyd ar 07/12/09

 


 

NEGES I RIENI AR Y CHWITH.

Allan i'r disgyblion ar 07/12/09

HEFYD, ADRODDIAD I'R "GORIAD" (Tachwedd) yn "Newyddion".

 


 GWASANAETH NADOLIG YR YSGOL:

NOS FERCHER, 09/12/09 YN Y GADEIRLAN - 7 p.m.

(Ychwanegwyd ar 02/12/09)

 


 

Amserlen Arholiadau Blwyddyn 11 ar waleod y rhestr ar y chwith. 

(Ychwanegwyd ar 02/12/09)

 


 

 

1259052484Cyst_Heddlu_Gog_Cymru.JPG

Llongyfarchiadau i dîm Blwyddyn 8 ar ennill y Cwis Craidd drefnwyd gan Heddlu Gogledd Cymru: (o'r chwith) Owain Parri, Anna Jones, Carina Mundle-Garratt, Sara Wiliam ac Ynyr Harris

 


 

Lluniau diwrnod Plant Mewn Angen a Bore Coffi Plant Mewn Angen yn y Galeri.

Ychwanegwyd 23/11/09

 


 

 Neges i rieni disgyblion Blwyddyn 10.

Cwmni’r Frân Wen yn cyflwyno ‘Dim ID’ gan Bedwyr Rees

Bydd eich plentyn yn mynychu perfformiad o ‘Dim ID’ gan Bedwyr Rees yn Galeri, Caernarfon ddydd Mawrth, 17eg o Dachwedd.  Mae Cwmni’r Frân Wen yn dathlu 25 mlynedd o ddarparu theatr ar gyfer plant a phobl ifanc eleni ac i nodi’r garreg filltir yn eu hanes mae nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal ar y diwrnod yn Galeri.  Bydd ffotograffydd proffesiynol yn bresennol ar y diwrnod i gofnodi’r digwyddiadau a bydd y rhaglen ‘Ffeil’ yn gwneud eitem i nodi’r achlysur.  Byddem yn hynod falch petaech gystal â hysbysu ysgol eich plentyn os nad ydych yn hapus i’ch plentyn fod yn rhan o’r digwyddiad lle mae posibilrwydd y bydd yn cael ei ffilmio / tynnu ei lun.

 Ychwanegwyd 12/11/09 (i'r disgyblion 13/11/09)

 


 

  NOS IAU, 12/11/09 - 6.30 p.m.

NOSON AGORED I RIENI DISGYBLION BL5 a 6.


Lluniau o'r Eisteddfod ar y chwith.

Ychwanegwyd 26/10/09


Gair byr i atgoffa pawb na fydd ysgol i'r disgyblion ddydd Gwener 23/10/09 (gweler y Calendr).

Rhagor o wybodaeth am y Clwb 5/60 wedi ei ychwanegu ar y chwith.

Ychwanegwyd ar 22/10/09)

 


 

 Aran o Flwyddyn 7 ar Mastermind Plant Cymru - ewch i

http://www.bbc.co.uk/cymru/mastermindcymru/2009/safle/cystadleuwyr/plant2009/tudalen/aran_bangor.shtml

Ychwanegwyd ar 20/10/09

 

 Lluniau cinio Ffrengig yn y Galeri.

Ychwanegwyd 15/10/09


Gwybodaeth am y Clwb 5/60 wedi ei

ychwanegu ar y chwith.

Ychwanegwyd 09/10/09

 


 

Lluniau Gweithdy C2 Radio Cymru yn y Galeri.

Ychwanegwyd 02/10/09

 


 

Newyddion Medi wedi ei gynnwys ar y chwith.

Ychwanegwyd 02/10/09

 


 

Newyddion i rieni disgyblion Blwyddyn 5 a 6 (Cynradd). Mae dyddiad y noson agored wedi ei gadarnhau erbyn hyn, sef nos Iau, Tachwedd 12fed, 2009 am 6.30 p.m. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl gwyliau hanner tymor.

Ychwanegwyd ar 30/09/09

 


 

Gwybodaeth am y Noson Agored i rieni Blwyddyn 7 ar y chwith.

Ychwanegwyd 25/09/09; llythyrau allan i'r disgyblion 22/09/09

 


 

Lluniau Blwyddyn 7 Glan-llyn ar y chwith.

Ychwanegwyd 16/09/09

 


 

Gwybodaeth am yr Uwch Adran yn "Gwahoddiad i Flwyddyn 7-9" ar y chwith.

Ychwanegwyd 16/09/09

 


 

Gweithgareddau Tymor 3 08-09 yn Newyddion.

Ychwanegwyd 15/09/09

 


 

Calendr 09-10 yr ysgol wedi ei ychwanegu ar y chwith.

Ychwanegwyd 13/09/09 - allan i'r disgyblion 14/09/09.

 


 

Linc i safwe Gwynedd ar gyfer tymhorau'r ysgol - 2009/2010:

http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?cat=2572&doc=25&Language=2

(Er gwybodaeth, mae hanner tymor Chwefror yn wythnos, nid yn ddau ddiwrnod fel nodir ar y calendr uchod).

CALENDR YR YSGOL I DDOD YN FUAN.

Ychwanegwyd 07/09/09


LLONGYFARCHIADAU MAWR I BAWB

AR EU LLWYDDIANT ARBENNIG YN YR

ARHOLIADAU ALLANOL!

Bydd yr ysgol yn ail-agor i'r disgyblion ddydd Mercher, 02/09/09

Ychwanegwyd 30/08/09


LLUNIAU O BARIS, LLANGOLLEN, A'R FFAIR IECHYD YN Y GALERI.

Ychwanegwyd 16/07/09

 


 

 

PRISIAU CINIO O FEDI 2009

Bydd newid i brisiau cinio i’r disgyblion o Fedi 1af, 2009. Y prisiau newydd fydd:

Pryd llawn: £2.10; Cwrs cyntaf: £1.55; Pasta King: £1.60; Powlen Salad £1.40; Tatw popdy £1.20; Baguette: £1.15; Brechdan/ Sandwich: £1.10; Pasta: £1.10; Sudd potel: 85c; Potel dwr: 65c; Bap cig moch: 65c; Carton Sudd: 70c; Iogwrt/ Yoghurt: 55c; Calypso: 40c;            Ffrwyth: 35c; Tôst/ Toast: 30c

Ychwanegwyd ar 13/07/09 (allan i'r disgyblion 13/07/09)


 NEWYDDION MEHEFIN 09 AR Y CHWITH

Ychwanegwyd 29/06/09

 


 

Cynhelir Ocsiwn Addewidion er mwyn casglu arian at gronfa Oliver Russell yn Ysgol Garnedd ar nos Fercher, Gorffennaf 8fed am 7 o'r gloch.

Mae Oliver yn gyn-ddisgybl o'r Garnedd ac mae ganddo nifer o ffrindiau gyda ni yma yn Nhryfan.

Mae rhai addewidion i mewn yn barod:

Wythnos ym Mwlgaria; darlun gwreiddiol gan Jac Jones; darlun gwreiddiol gan Aled Pritchard Jones; diwrnod ym Mlas Menai..........a llawer mwy!

Yr Arwerthwr fydd Dafydd Hardy, a'r arweinydd ar gyfer y noson fydd Ffion Dafis.

Buasai eich presenoldeb ar y noson yn cael ei werthfawrogi'n fawr - beth am gynnig addewid ychwanegol i'r noson? Os am wneud, cysylltwch â Cheryl Griffiths ar 01248 355864

Ychwanegwyd 24/06/09

 


 

Lluniau o'r 'Steddfod yn y Galeri.

Ychwanegwyd 02/06/09

 


 

 Newyddion Mai 2009 wedi ei ychwanegu ar y chwith.

01/06/09

 


 

 

LLONGYFARCHIADAU MAWR I'R BAND JAS (1AF) AC I BAWB FU'N CYMRYD RHAN YN Y CYFLWYNIAD DRAMATIG (2IL) YN EISTEDDFOD YR URDD CAERDYDD.

Y BAND JAS: http://urdd.s4c.co.uk/cy/cystadlu/dydd-gwener/194?clip=404

CYFLWYNIAD DRAMATIG: http://urdd.s4c.co.uk/cy/cystadlu/dydd-iau/218?clip=313

RHAGOR O LUNIAU I DDOD.

YCHWANEGWYD 30/05/09

 


 

Nodyn atgoffa i rieni disgyblion Blwyddyn 6 sydd wedi eu cofrestru i gychwyn fis Medi:

"Neges i rieni disgyblion blwyddyn 6 sydd wedi eu cofrestru ar gyfer Medi 2009 -  dylech fod wedi derbyn llythyr erbyn hyn yn gwahodd eich plentyn i'r ysgol ar ddydd Mawrth, Mehefin 30eg, 2009 i dreulio diwrnod gyda ni. Os nad ydych wedi derbyn y llythyr, cysylltwch â'r ysgol."

Ychwanegwyd 20/05/09

(Gwreiddiol ar 19/03/09)


Llun tîm pêl-droed Blwyddyn 7 yn y Galeri.

Ychwanegwyd 19/05/09


 

Lluniau o'r gystadleuaeth pêl-droed genethod dan 14 yn y Galeri.

Ychwanegwyd ar 14/05/09

 


 

Amserlen arholiadau allanol i'w chael ar

 http://www.cbac.co.uk/index.php?nav=6

Ychwanegwyd ar 11/05/09

 


 

 Gweithgareddau Tymor 2 yn 'Newyddion'.

Ychwanegwyd 06/05/09

 


 

 Llongyfarchiadau i'r disgyblion ar ddod yn gyntaf yn y Gystadleuaeth Llys! Lluniau yn y Galeri.

Ychwanegwyd ar 02/05/09

 


 

 Amserlen Profion/TGAU Bl 10 yn 'Newyddion'.

Ychwanegwyd 27/04/09 


 

Amserlen Profion 7-9 yn 'Newyddion'.

Ychwanegwyd 24/04/09


Newyddion Mawrth 09 wedi ei gynnwys yn 'Newyddion'. 

Ychwanegwyd 23/04/09

 


 

Lluniau'r ymweliad i Ganolfan Telford

yn y Galeri.

Ychwanegwyd 01/04/09

 


 

Newyddion am y Clwb 5/60 ar y chwith.

Ychwanegwyd 24/03/09

 


 

Neges i rieni disgyblion blwyddyn 6 sydd wedi eu cofrestru ar gyfer Medi 2009 -  dylech fod wedi derbyn llythyr erbyn hyn yn gwahodd eich plentyn i'r ysgol ar ddydd Mawrth, Mehefin 30eg, 2009 i dreulio diwrnod gyda ni. Os nad ydych wedi derbyn y llythyr, cysylltwch â'r ysgol.

Ychwanegwyd ar 19/03/09


Lluniau diwrnod Trwynau Coch yn y Galeri.

1237153316trwyn.jpg

Ychwanegwyd 15/03/09 


Gweithgareddau Tymor 1 08-09 yn 'Newyddion'.

Ychwanegwyd 13/03/09 


Newyddion Chwefror 09 ar y chwith.

Ychwanegwyd 26/02/09

 


Gair i atgoffa pawb na fydd ysgol i’r disgyblion ddydd Gwener, 13/02/09, oherwydd diwrnod hyfforddiant i’r staff. Gan fod diwrnod hyfforddiant ar y dydd Llun ar ôl hanner tymor, sef 23/02/09, bydd yr ysgol yn ail-agor i’r disgyblion ddydd Mawrth 24/02/09.

Bydd diwrnod hyfforddiant staff ychwanegol i’r hyn nodir ar y calendr ar ddydd Mawrth, Ebrill 21ain, 2009.Mae hyn felly yn golygu bydd yr ysgol yn ail-agor ar ôl y Pasg i’r disgyblion ar ddydd Mercher, Ebrill 22ain.

Ychwanegwyd ar 03/02/09


 Mae newyddion Ionawr 2009 ar gael ar y chwith.

Ychwanegwyd 29/01/09

 


 

Lluniau Hwylio Plas Menai Bl9 Diwrnod 1 yn y Galeri.

Ychwanegwyd 27/01/09

 


 

Rhai o luniau’r daith gerdded i Ynys Llanddwyn yn y Galeri.

Ychwanegwyd 26/01/09

 


 

Cit newydd i’r timau merched!

1232459641DSCF2954.JPG

Ychwanegwyd 20/01/09

 

Asesiadau Blwyddyn 11 allan i rieni ddydd Gwener, 16/01/09.

Cyfarfod rhieni disgyblion Bl11- dydd Mawrth, 20/01/09 4-6 p.m.

Taflenni apwyntiadau wedi eu dosbarthu ddydd Mawrth 13/01/09.

Ychwanegwyd 15/01/09

 


 

Lluniau’r band wrth y cloc ym Mangor wedi eu hychwanegu yn y Galeri.

Hefyd gwybodaeth am yr Aelwyd.

Ychwanegwyd 05/01/09

 


 

Linc i “Amserlen Arholiadau Allanol” (CBAC) yn “Calendr yr Ysgol”

- ar gyfer rhieni a disgyblion Bl10-13. 

Hefyd, linc newydd (Addysg Gorfforol) o dan “Yr ysgol ar y we”.

Ychwanegwyd 04/01/09


Noson Rhieni Blwyddyn 7 - Dydd Mawrth, 13/01/09 am 4 o’r gloch.

 Bydd eich plentyn yn derbyn taflen apwyntiadau ar ddydd Mawrth, 06/01/09.

Ychwanegwyd 02/01/09



Blwyddyn Newydd Dda i bawb!

Bydd yr ysgol yn ail-agor ar ddydd Llun, 05/01/09



 Tracwisg newydd yr ysgol - ar gael i ddisgyblion ac oedolion.

1229697883tracwisg1.JPG

1229698305tracwisg3.jpg

1229697889tracwisg2.JPG

 

Ychwanegwyd 19/12/08


Mae newyddion Rhagfyr 08 ar gael ar y chwith.

Diweddariad hefyd i’r ‘Clwb 5/60’

Ychwanegwyd 19/12/08


 


 


Mae S4C wedi newid dyddiad Pencampau’r Sêr eto!

Y dyddiad newydd yw Dydd Llun, Ionawr 1af, 2009 am 7.15 p.m.

Ychwanegwyd 15/12/08


1227617106nADOLIG.gifGWASANAETH NADOLIG YSGOL TRYFAN

Y Gadeirlan - 7 p.m. - Nos Iau, 11/12/08

Ychwanegwyd 25/11/08

DIOLCH I BAWB FU’N CYMRYD RHAN,

AC I’R RHIENI I GYD AM EICH CEFNOGAETH.


Noson rhieni Blwyddyn 12 ac 13

4 p.m. ymlaen - nos Fawrth, 09/12/08


Newyddion Tachwedd 2008 - yn “Newyddion”.

Ychwanegwyd 26/11/08


Lluniau o’r daith Ffrangeg i’r Farchnad Ewropeaidd ar 21/11/08 yn y “Galeri”

Ychwanegwyd 26/11/08


1227615525SANY0026_edited-1.JPG     

Lluniau Taith Sglefrio’r Urdd (Uwch Adran/Aelwyd Bangor)

 o dan ‘Yr Urdd-Uwch Adran’.

Ychwanegwyd 25/11/08


Diwrnod ychwanegol i’r Calendr: Bydd Dydd Gwener, 13/02/09 yn ddiwrnod hyfforddiant i’r staff. Ni fydd ysgol i’r disgyblion.

Ychwanegwyd 20/11/08


1226418966tudwe1.jpg 1226418978tudwe2.jpg 1226419429tudwe3.jpg

O Lawlyfr yr Ysgol:

‘PWYSIG: O dro i’w gilydd, byddwn yn tynnu lluniau o’r plant tra’u bod wrth eu gwaith ac mae’n bosib y defnyddir y delweddau hyn i bwrpas hysbysebu. Dylai rhieni roi gwybod i’r ysgol os ydynt yn anfodlon i hyn gael ei wneud.